Nid yw gwên yn costio dim, ond mae'n rhoi llawer. Mae'n cyfoethogi'r rhai sy'n derbyn, heb wneud y rhai sy'n rhoi yn dlotach. Nid yw ond cymryd eiliad, ond gall y cof ohoni bara byth. Nid oes neb yn rhy gyfoethog neu fawreddog i allu byw hebddi ac nid oes neb mor dlawd fel na all gael ei gyfoethogi ganddi. Mae gwên yn creu llawenydd yn y cartref, yn hybu ewyllys da mewn busnes, ac yn brawf o gyfeillgarwch. Daw â gorffwys i'r blinedig, ysbryd i'r digalon, heulwen i'r trist, a hi yw moddion gorau natur yn wyneb trafferthion. Eto ni ellir ei phrynu, ei chardota, ei benthyg na'i dwyn, am nad yw o werth i neb nes iddi gael ei rhoi. Mae rhai'n rhy flinedig i roi gwên i chi. Rhowch eich gwên chi iddyn nhw, gan nad oes mwy o angen gwên ar neb na'r sawl nad oes ganddo ragor i'w roi. Cyfeithwyd gan Heini Gruffydd